O na chawn ddifyru nyddiau
Llwythog, dan dy werthfawr groes,
A phob meddwl wedi ei g'lymu
Wrth dy berson ddydd a nos:
Tan dy gysgod,
Mewn tangnefedd pur a hedd.
Dyma'r man dymunwn drigo,
Wrth afonydd gloywon llawn,
Sydd yn llifo o ddwfr y bywyd,
O foreuddydd hyd brydnawn;
Lle cawn yfed,
Hyfryd gariad byth a hedd.
Ffordd nid oes o waredigaeth,
Ond agorwyd ar y pren,
Llwybr pechaduriaid euog,
Mewn i byrth y nefoedd wen:
Dyma gefnffordd,
Gwna i mi'i cherdded tra f'wyf byw.
William Williams 1717-91
[Mesur: 878747] gwelir: Arnat Iesu boed fy meddwl Croesau trymion sydd yn felus Dyma Geidwad i'r colledig Ffordd nid oes o waredigaeth Heddyw yw'r dydd rwi'n ofni syrthio O na bai cystuddiau f'Arglwydd Y mae rhinwedd gras y nefoedd |
O that I could get to enjoy burdensome
Days, under thy precious cross,
With every thought tied
To thy person day and night:
Under thy shadow,
In pure tranquility and peace.
Here is the place I would wish to dwell,
By bright, full waters,
Which are flowing with the water of life,
From morning until evening;
Where I may get to drink,
Delightful love forever and peace.
There is no way of deliverance,
But that opened on the tree,
A path of guilty sinners,
Into the portals of the bright heavens:
Here is a highway,
May me walk it while ever I live.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|